Eifion WynOWENTyddyn Siencyn, Llangwyllog. Dymuna Betty, Gwilym a Dona ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch yn arbennig i'r rhai fu'n eu cynorthwyo dros y cyfnod anodd ers colli EIFION. Ar ddydd ei angladd, diolch i swyddogion ac aelodau Capel Gosen Llangwyllog, ac i'r Dr Non Gwenllian Williams, am ei gwasanaeth wrth yr organ. Mae diolch arbennig yn mynd i'r Parchedig Christopher Prew am ei gynhaliaeth a'i genadwri. Derbyniwyd yn ddiolchgar £527 fel rhoddion, i'w rhannu rhwng Capel Gosen a Meddygfa Coed y Glyn. Gwerthfawrogwyd drefniadau trylwyr a gofalgar yr Ymgymerwr, Mr Gareth Owen, Griffith Owen, Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, y Fali.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Eifion